Storiau Eraill
Newyddion
Parti Nadolig Gwesty Fali
Cawsom newyddion da iawn yn ddiweddar yn yr ysgol fod Scarlett o Flwyddyn 5 wedi ennill cystadleuaeth dylunio llun Nadolig ar gyfer Bwydlen Nadolig Gwesty y Fali. Bu pawb o blant Blwyddyn 3, 4, 5 a 6 yn brysur yn gwneud llun ond Scarlett oedd yn fuddugol !
Fel rhan o'r wobr roedd parti i bawb oedd ar gael o'r dosbarthiadau yma yng Ngwesty y Fali Dydd Sul 20 Rhagfyr - gyda popeth am ddim !
Roedd pawb wedi mwynhau a diolch i staff y Gwesty am y croeso cynnes.
Dyma rhai o'r lluniau! Roedd rhai o'r rhieni wedi mwynhau gymaint a'r plant dwi'n meddwl !