Cyngor Ysgol

Mae’r ysgol yn cynnwys dau ddisgybl o bob Blwyddyn ysgol o Blwyddyn 2 – 6 ar y Cyngor. Mae’nt yn cyfarfod yn rheolaidd i roi llais i’r disgyblion o fewn yr ysgol. Mae’r Cyngor yn trafod amrywiaeth eang o agweddau sy’n bwysig i’r disgyblion. 

Mae ein Cyngor ni yn rhoi llais y plentyn yn ganolbwynt i ddysgu a bywyd yr ysgol. Rydym yn credu bod safon dysgu yn gwella pan fo llais y plentyn yn cael ei gynnwys. Mae rhoi rheolaeth i’r disgyblion dros agweddau o’u dysgu yn arwain at lawer iawn mwy o weithredu effeithiol.

Cadeirydd y Cyngor – Cian Blwyddyn 6

Is Gadeirydd – Esther Blwyddyn 6

Ysgrifennydd – Guto Blwyddyn 5

Is Ysgrifennydd – Beca Blwyddyn 5

Trysorydd – Kady Blwyddyn 6

Is Drysorydd – Millie Blwyddyn 6

Casglu bocsys esgidiau i T4U a mynd a nhw i’r man casglu yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Da iawn pawb !
Stondin Ffair Nadolig 2019
Cyfri’r arian ar ol gwneud Pudsey !