Gwaith i’r plant 20/4/20 ymlaen
16/04/20
At Rieni a phlant Ysgol Gymraeg Morswyn
Gobeithio eich bod i gyd yn iawn. Mae’r gwyliau Pasg bron a gorffen ac o Ddydd Llun ymlaen (20/4/20) byddwn yn dechrau addysgu o bell – profiad newydd i ni i gyd !!!
Bydd gwaith yn cael ei rannu ar lein fel hyn ar y bore Dydd Llun ar ddechrau pob wythnos :
PURPLE MASH + SEE SAW
Bl 0 (Mrs Evans), Bl 0/1 (Mrs Williams), Bl 1/2 (Mrs Owen) a Bl 3 a 4 (Mrs Hughes)
GOOGLE CLASSROOMS + SEE SAW
Bl 4/5 (Mrs Edwards) a Bl 5/6 (Mr Pritchard)
Bydd 6 tasg yn cael ei rannu ar gyfer yr wythnos – beth am wneud 1 pob dydd ?
Pawb i gwblhau y gwaith yma a gwneud eich gorau PLIS
Unrhyw broblem gallwch e bostio yr athrawon neu fi neu anfon neges testun i mi neu ffonio’r ysgol.
BYDD MWY O WYBODAETH AM AR APP SEE SAW I DDILYN FELLY DIM ANGEN GWNEUD DIM EFO HWN AM Y TRO
BYDD MWY O WYBDOAETH AM WAITH I BLANT MEITHRIN (MRS EVANS) WYTHNOS NESAF
Ond nid yw’n iach i wario eich holl amser o flaen sgrîn a felly bydd rhai o’r tasgau uchod yn rai i ffwrdd o gyfrifiadur.
Mae pawb gyda pecyn o waith wedi dod adref o’r ysgol yn cynnwys gwaith rhif a Iaith.
Bydd rhai o’r tasgau efallai yn cynnwys gorffen rhain.
Unwaith byddwn wedi sortio See Saw byddwch yn gallu tynnu lluniau o’ch gwaith a’u rhoi ar See Saw. Bydd yr athrawon dosbarth wedyn yn gallu eu gweld a rhoi sylwadau arnynt.
Efallai eich bod yn gorfod rhannu cyfrifiadur / dyfais gydag aelodau eraill o’ch teulu a felly bydd raid i chi wneud amserlen er mwyn gwneud yn siwr fod pawb yn cael cyfle !
Os nad oes ganddoch fynediad i gyfrifiadur, Chromebook, dabled neu ffôn RHAID i chi gysylltu a mi AR FRYS trwy ffonio’r ysgol neu anfon neges testun.
Mae’n gyfnod anodd iawn i deuluoedd. Lles ac iechyd meddyliol a chorfforol ydi’r peth pwysicaf oll yn ystod y cyfnod hwn.
Cadwch yn saff a cofiwch gysylltu os ydych angen cymorth neu hyd yn oed mond am sgwrs !
Yr eiddoch yn gywir
M Roberts
Mr Medwyn Roberts
PENNAETH / HEADTEACHER