Ychydig o hanes

Mae Ysgol Gymraeg Morswyn yn ysgol Gynradd benodedig Gymreig ar gyrion tref porthladd Caergybi. Mae’r ysgol yn cael ei arwain gan ein Pennaeth Mr Medwyn Roberts. Rydym yn eich croesawu’n gynnes i’n wefan newydd.

Sut gafodd yr ysgol ei enw?

Cafodd yr ysgol ei henwi ar ôl Samuel Jonathan Griffith (Morswyn). Daeth i anfarwoldeb gyda’i emyn fawr ‘CRAIG YR OESOEDD’.

Priododd Morswyn a merch o Kingsland, Jane Elin Thomas. Ymsefydlodd y ddau yn saith Kingsland a phrofasant y loes o gladdu eu dau blentyn Ifan Huw (1877 – 80) and Jane Elin (1882).

Bu farw Morswyn yntau yn wr ifanc ar 10 Awst 1893 a chladdwyd ef yn mynwent Maes Hyfryd.

Mae bedd Morswyn wedi cael ei drin yn ystod Haf 2017 a bu cor yr ysgol yn recordio eitem yno ar gyfer rhaglen teledu S4C HENO.

Craig yr Oesoedd

Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
At y Graig sydd uwch na mi,
Craig safadwy mwn tymhestloedd,
Craig a ddeil yng ngrym y lli;
Llechu wnaf yng Nghraig yr Oesoedd,
Deued dilyw, deued tân,
A phan chwalo’r grëadigaeth,
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.

Pan fo creigiau’r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy’r farn a ddaw,
Stormydd creulon arna’i’n curo-
Cedyrn fyrdd o’m cylch mewn braw,
Craig yr Oesoedd ddeil pryd hynny,
Yn y dyfroedd, yn y tân :
Draw ar gefnfor tragwyddoldeb
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.

Samuel Jonathan Griffiths
(Morswyn)